Celebrations for Welsh saint begin with bilingual Mass
Last Thursday, 10 December, a unique bilingual Mass was held in a small church in Dolgellau,north Wales, launching a year of celebrations for Saint John Roberts, of Trawsfynydd, who was executed 400 years ago at Tybyrn.
Present were Bishop Edwin Regan, the Dolgellau Nuns of the Carmelite Order and Father Joshy, the Parish Priest who originates from India and who is learning Welsh. Fr Joshy also took part in the opening service at this year's National Eisteddfod in Bala.
The year of celebrations will runs until 10 December 2010. A landmark event will be held in Westminster Cathedral, London on 17 July 2010 where, for the first time ever, Archbishop of Westminster Vincent Nichols, and Archbishop of Canterbury, Dr Rowan Williams, will unite with Welsh religious leaders to celebrate the life of one of Wales' Saints.
Datganiad i'r Wasg: Pobl o bob enwad a dim enwad yn uno i lansio blwyddyn o ddathlu 400 mlwyddiant merthyrdod Sant John Roberts o Drawsfynydd
Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn bresennol yn y lansiad neithiwr: Mae'r offeren arbennig yma yn gyfle i gofio am bwysigrwydd ein traddodiad Catholig yng Nghymru a'n perthynas hanfodol a gweddill Ewrop².
Neithiwr, 10 Rhagfyr, cynhelwyd Offeren unigryw dwyieithog yn Eglwys fechan Dolgellau i lansio blwyddyn o ddathliadau Sant John Roberts, o Drawsfynydd, a gafodd ei ddienyddio 400 mlynedd yn ôl yn Tybyrn. Yn presenol yn yr Offeren oedd Esgob Edwin Regan, lleianod Urdd y Carmeliaid yn Nolgellau a'r Offeiriad Plwyf, y Tad Joshy, sy'n wreiddiol o'r India, ac wrthi'n dysgu Cymraeg yn rhyfeddol. Y Tad Joshy oedd hefyd yn traddodi'r fendith yn y gwasanaeth agoriadol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala eleni.
Bydd blwyddyn y dathliadau yn rhedeg o 10 Rhagfyr 2009 hyd 10 Rhagfyr 2010. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn arwain at ddigwyddiad hanesyddol yng Nghadeirlan Westminster yn Llundain fis Gorffennaf 2010 lle, am y tro cyntaf erioed, bydd pennaeth yr Eglwys Gatholig, Archesgob Westminster Vincent Nichols, a phennaeth yr Eglwys Anglicanaidd, Archesgob Caergaint Rowan Williams, yn uno ag arweinwyr crefyddol Cymru i ddathlu bywyd un o seintiau Cymru.